Saesneg Cymraeg

First HydroCwmni First Hydro yw un o gynhyrchwyr trydan mwyaf dynamig y Deyrnas Unedig ac mae’n gyfrifol am reoli a gweithredu’r gweithfeydd pwmpio a storio yn Ninorwig a Ffestiniog yn Eryri yng Nghymru. Mae First Hydro yn eiddo i fenter ar y cyd, International Power ccc a Mitsui & Co. Cyf. ...mwy.

Bala HouseMae trefnu gwaith gorsafoedd pŵer Cwmni First Hydro, a rheoli’r dasg o werthu pŵer a gwasanaethau atodol yn cael ei gyflawni gan y tîm masnachu yn Nhŷ’r Bala yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint. ...mwy.

First HydroGyda’r mynyddoedd godidog yn gefndir a golygfeydd trawiadol Eryri, y Mynydd Gwefru yw canolfan ymwelwyr Cwmni First Hydro yn Llanberis. Ar wahanol lefelau yno mae siop anrhegion a chaffi a dyma’r man cychwyn ar gyfer taith i Orsaf Bŵer Dinorwig. Does dim tâl mynediad i’r ganolfan ymwelwyr, ond rhaid talu am y daith awr o hyd i Orsaf Bŵer Dinorwig. ...mwy.