CANOLFAN RHEOLI YNNI
Mae trefnu gwaith gorsafoedd pŵer Cwmni First Hydro, a rheoli’r dasg o werthu pŵer a gwasanaethau atodol yn cael ei gyflawni gan y tîm masnachu yn Nhŷ’r Bala yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint.
Fan hyn y bydd penderfyniadau o ddydd i ddydd yn cael eu gwneud am brisio a rheoli lefelau storio dŵr, gyda gweithgarwch masnachu cyfanwerthol yn cael ei gynnal ar draws amryw o gyfnodau amser, un ai’n uniongyrchol gydag eraill yn y farchnad drydan, neu drwy froceriaid a chyfnewidfeydd.
Oherwydd bod y gorsafoedd mor ddibynadwy ac yn gallu ymateb yn gyflym, yn aml bydd galw mawr am wasanaethau Cwmni First Hydro, yn y marchnadoedd masnachu hyn ac yn y farchnad gydbwyso amser real sy’n cael ei gweithredu gan y Grid Cenedlaethol.
Mae yna dîm un pwrpas o fasnachwyr, gan gynnwys system 24 x 7, sy’n monitro digwyddiadau yn y marchnadoedd ynni ac sy’n mynd ati i chwilio am gyfleoedd i roi’r gwerth gorau i’r busnes. Mae’r tîm masnachu yn cael ei gefnogi gan systemau gwybodaeth trawiadol a thîm o ddadansoddwyr galluog.
Yn Nhŷ’r Bala hefyd mae tîm marchnata sy’n rheoli rhai o faterion masnachol tymor hir y cwmni, ynghyd â rheoli risg, a gweithgarwch setlo masnachol sy’n angenrheidiol er mwyn cymryd rhan yn y farchnad drydan fodern.
MANYLION CYSYLLTU
|
