Hanes

Y cwestiwn yw pam adeiladu gorsaf bŵer yng nghanol mynydd? Mae'r ateb yn un syml. Roedd y dylunwyr eisiau lleihau gymaint â phosibl ar yr effaith fyddai gorsaf bŵer fawr yn ei gael ar gefn gwlad, a'r safle mwyaf addas ar gyfer yr orsaf bŵer oedd ar ffiniau'r mawreddog Barc Cenedlaethol Eryri. Yn naturiol, pan gynigwyd y cynllun ar y cychwyn roedd cadwraethwyr wedi'u dychryn â maint y dyluniad a'i leoliad yn un o brif barciau cenedlaethol y wlad. Fodd bynnag, rhoddwyd sawl sicrwydd a gwnaethpwyd addasiadau a diwygiadau sylweddol i'r dyluniad gwreiddiol er mwyn ymateb i'r gwrthwynebiadau amgylcheddol.

Roedd hi'n ymddangos nad oedd ffordd well o guddio'r orsaf na'i gosod yn y mynydd a oedd eisoes wedi ei gloddio am ganrifoedd gan y chwarelwyr llechi.

Cwestiwn arall yw pam fod angen rhywbeth mor fawr â Dinorwig? Yn y 1950au, daeth y cysyniad o bwmpio a storio i wledydd Prydain am y tro cyntaf gyda chynlluniau gwaith pwmpio a storio trydan hydro Blaenau Ffestiniog. Roedd y cynllun hwn yn llwyddiannus iawn a dangosodd bwysigrwydd gwaith cynhyrchu drwy bwmpio a storio. Fodd bynnag, sylweddolwyd y byddai'r orsaf bŵer hon yn annigonol i fodloni anghenion trydan cynyddol y wlad.

Am ddwy flynedd bu peirianyddion yn ymchwilio i safleoedd posibl ar gyfer cynllun cynhyrchu mawr. Yn y diwedd rhoddwyd tri safle ar restr fer, pob un yng Ngogledd Cymru. Roedd gan Fynydd Elidir, ar ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, nodwedd unigryw o lyn ger ei gopa, Llyn Marchlyn Mawr, ac un arall, Llyn Peris, yn y gwaelod - delfrydol ar gyfer cynllun pwmpio a storio.

Roedd Mynydd Elidir wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd lawer at bwrpas arall. Ar lannau'r llyn isaf, Llyn Peris, roedd olion oes ddiwydiannol arall - chwareli llechi Dinorwig. Am 200 mlynedd a mwy, roedd cloddio gan filoedd o chwarelwyr wedi bwyta i lethrau Elidir, gan adael ponciau o hyd at 600 metr mewn uchder a chreithiau garw gwastraff diwydiannol ar odra'r mynydd. Y diwydiant llechi oedd yn meddiannu'r olygfa a bywydau'r gymuned leol drwy ddarparu'r brif gyflogaeth yn yr ardal nes y disodlwyd cynhyrchu llechi gan ddeunyddiau synthetig. Yn ei hanterth roedd chwarel lechi Dinorwig yn cyflogi tua 3000 o ddynion. Mewn gwirionedd, ar ddechrau'r 20fed ganrif, chwarel lechi Dinorwig oedd yr ail fwyaf yn y byd, a dim ond chwarel y Penrhyn gerllaw oedd yn fwy na hi. Daeth y galw am lechi to i fod yn sylweddol yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif ac roedd llechi to o Ddinorwig a chwareli eraill yng Ngogledd Cymru nid yn unig yn cael eu hallforio ar hyd a lled Prydain ond hefyd i gyfandir Ewrop a Gogledd America lle'u defnyddiwyd i fodloni anghenion cynyddol codi tai yn y dinasoedd diwydiannol. Cyrhaeddodd y diwydiant llechi ei anterth tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ym 1969 daeth cynhyrchu i ben yn y chwarel.

Ar ôl penderfynu adeiladu gorsaf bŵer yn Ninorwig, dechreuodd yr ymgynghori â'r gymuned leol a oedd, gyda mwyafrif mawr, yn croesawu'r bwriad o greu 2,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu. Roeddent hefyd yn croesawu dyluniad sensitif oedd yn cynnwys cuddio'r rhan fwyaf o'r orsaf bŵer yn ddwfn yng nghrombil Mynydd Elidir mewn ceudyllau tanddaearol.

Ar ôl bron i ddeng mlynedd o dyllu yn y mynydd, creu twneli, ehangu'r llynnoedd a symud yr holl beirianwaith trwm i mewn i'r mynydd, roedd Dinorwig yn barod ac fe'i hagorwyd gan y Tywysog Charles ym 1984. Ers hynny mae Dinorwig wedi dod yn rhan allweddol o gyflenwad pŵer Prydain; gan gamu i'r adwy ar yr achlysuron hynny pan fydd pawb ohonom yn penderfynu gwneud paned o de.

Ionawr*, Chwefror, Mawrth, Ebrill, Mai
7 diwrnod yr wythnos 10.00am - 4:30pm

Prif Wyliau Plant, Gwyliau'r Banc a Mehefin, Gorffennaf, Awst
7 diwrnod yr wythnos 09.30am - 5:30pm

Medi, Hydref, Tachwedd, Rhagfyr
7 diwrnod yr wythnos 10:00am - 4:30pm (wedi cau Rhagfyr 24, 25, 26 a 31)

*Bydd y Ganolfan ar gau am y pythefnos cyntaf yn Mis Ionawr ar gyfer gwaith cynnal a chadw a hyfforddiant staff